Cyhoeddi’n Ddwyieithog

 

Yn ystod rhaglen fentora ddiweddar i Gyngor Celfyddydau Cymru, roedd yr heriau ynghylch sefydliadau celfyddydol yn cyhoeddi cynnwys digidol yn Gymraeg a Saesneg yn sail i sesiwn grŵp cyfoedion.

 

Esboniodd Rob Lindsay, Pennaeth Rhaglenni The Space: “Mae’r sesiynau grŵp hyn wedi’u cynllunio i adael i’r rhai sy’n cael eu mentora rannu eu profiadau a’u heriau eu hunain ynghylch pwnc penodol, yn enwedig mewn meysydd lle mae atebion yn dal i ddod i’r amlwg. Er bod pawb yn cytuno ar bwysigrwydd cyhoeddi’n ddwyieithog, roedd yn amlwg yn y sesiwn honno bod llawer iawn o rwystredigaeth o hyd ynghylch y pethau ymarferol. Ac mae llawer o hyn yn dod lawr i’r ffordd y mae ysgrifennu copïau digidol – yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol – yn cael ei drin.”

 

Wedi’i gynllunio yn erbyn ar unwaith

 

Wrth edrych ar ble mae sefydliad yn gallu dangos eu hymrwymiad i gyflwyno gwybodaeth yn ddwyieithog, mae rhaniad clir rhwng negeseuon hirhoedlog, negeseuon allweddol, a chyfathrebu amserol, mwy uniongyrchol. Mae unrhyw ddeunydd sydd eisoes â’r amser wedi’i gynnwys ar gyfer proses prawf-ddarllen – fel arwyddion lleoliad, llyfryn tymor, neu adran “ynghylch” ar wefan – hefyd ag amser wedi’i ganiatáu ar gyfer gwasanaethau cyfieithu proffesiynol.

“Mae ein holl gopi print ac ar y we yn cael eu cynhyrchu yn Gymraeg ac yn Saesneg,” meddai un cyfrannwr at y drafodaeth grŵp, “ac mae ein fideos ni’n cael eu cynhyrchu gydag is-deitlau. Ar gyfer rhywbeth fel fideo, efallai y bydd angen 24 awr i’w brawf-ddarllen beth bynnag, felly mae’n iawn. Mae gennym ni’r amser wedi ei gynnwys y gellir ei ddefnyddio ar gyfer cyfieithu hefyd. Ac anaml iawn y bydd deunyddiau fideo yn rhai brys ar unwaith – maen nhw’n rhan o ymgyrchoedd sydd gobeithio wedi’u cynllunio ddigon ymlaen llaw.”

 

Ond ar gyfer cynnwys cymdeithasol cyflymach sy’n cael ei yrru’n fwy gan bynciau, mae amser yn broblem, gyda deunyddiau’n cael eu hysgrifennu a’u cyhoeddi ar yr un diwrnod, yn aml i gyfathrebu gwybodaeth gwbl gyfredol. “Mae gennym gyfrifon trydar Cymraeg a Saesneg,” meddai un arall sy’n cael ei fentora, “ac er fy mod i’n siarad Cymraeg dwi wastad yn gwirio’r un Saesneg yn gyntaf achos dwi’n gwybod bod newyddion yn mynd i fyny yna’n gyflymach.”

 

“Dyw’r amser i droi pethau rown jyst ddim yna. Ac mae hynny’n gallu bod yn hanfodol ar gyfer cynnwys cymdeithasol.”

 

Llais dilys

 

Dywedodd rhai fod hyn hefyd wedi arwain at ofyn i aelodau staff Cymraeg eu hiaith ymgymryd â dyletswyddau cyfieithu, hyd yn oed os nad yw hyn yn rhan o’u swydd ddisgrifiad, a hyd yn oed os nad ydyn nhw’n gyfforddus â’r cyfrifoldeb. Mae Rob yn esbonio bod y sylw hwn wedi’i gydnabod yn eang gan y grŵp: “Yn ystod sesiwn y grŵp, roedd hyn yn cael ei gymharu ag unrhyw aelodau o staff sydd â digidol yn nheitl eu swydd yn araf ddod yn gefnogaeth TG answyddogol i’r rhai o’u cwmpas”, eglura. “Ac mae hyd yn oed yn fwy o broblem i’r bobl dan sylw pan nad oes hyd yn oed ail siaradwr Cymraeg ar gael i brawf-ddarllen y gwaith cyn iddo gael ei gyhoeddi. Soniodd un person am gael cais i gyfieithu arwyddion, ac yna cael eu beirniadu pan welwyd camgymeriadau ynddynt. Nid dyna eu gwaith nhw, ac nid eu bai nhw yw e – dyw e ddim hyd yn oed mor frys â hynny, felly siawns y gallai rhywun arall fod wedi gwirio?”

 

Hyd yn oed o roi cyflymder neu argaeledd gwasanaethau cyfieithu o’r neilltu, mae problem gyda’r ffaith mai dechrau yn Saesneg mae pawb.

 

“Ti’n colli rhythmau, ti’n colli chwarae ar eiriau, ti’n colli cyflythrennu…” meddai un aelod o’r grŵp am gyfieithu testun. “Ti’n colli llais. Ti’n colli pethau sy’n gwneud i iaith ddod yn fyw.”

 

A gall fod problemau gyda naws hefyd. Cyfeiriodd un arall sy’n cael ei fentora fod llawer o gyfieithiadau Cymraeg yn tueddu i fod yn eithaf ffurfiol, tôn llais De Cymru, hyd yn oed os ysgrifennwyd y testun gwreiddiol i fod yn eithaf sgyrsiol ac agos-atoch. “Rwyt ti’n sylwi arno fwy a mwy. Rwyt ti’n colli’r naws anffurfiol, yn enwedig os wyt ti’n ceisio cyflwyno rhywbeth yn agos-atat ar gyfer cynulleidfa iau neu deuluol.”

 

“Roedd yn ymddangos fel petai pawb wedi gweld enghreifftiau o hyn,” meddai Rob, “ac roedd yn arbennig o berthnasol i unrhyw un oedd o sefydliad dan arweiniad y gymuned, neu gwmni oedd i fod i gynrychioli rhanbarth penodol. Dydi cael eich holl gopi yn swnio fel ei fod yn cael ei ddarllen ar wasanaeth BBC y byd ddim yn gwneud iddo deimlo fel eich bod yn adnabod eich ardal leol.”

 

Roedd llais yn broblem sylweddol i’r grŵp. “Mae ein cynulleidfa ni’n gynulleidfa ddwyieithog,” meddai un, “sy’n golygu eu bod nhw’n siarad y ddwy iaith. Nid bod pobl ddim yn gwybod beth rydyn ni’n ei ddweud. Y peth ydi, mae’n bwysig [ein bod ni’n cyflwyno’n hunain â dilysrwydd].”

 

Cynyddu hygyrchedd

 

“Mae’n ymwneud â hwyluso mynediad.” meddai Alun Llwyd o lwyfan ffrydio Cymraeg AM, a oedd yn  mentora ar y rhaglen. “Dylai’r peth dwyieithog fod ynglŷn â chynyddu mynediad i’r pwnc. Mae’n gynyddol berthnasol wrth i fwy a mwy o bobl ddysgu’r iaith. Mae angen i chi wneud yn siŵr nad ydych chi’n tanseilio eu hyder trwy daflu geirfa ffurfiol iawn atynt. Mae yna dir canol, rhwng dysgu a bod yn rhugl. Rwy’n ei weld yn ein staff – nid yw hyd yn oed y rhai sy’n rhugl yn gwybod pob gair, a maen nhw yn gallu baglu. Mae angen i ni edrych ar Gymraeg symlach, hawdd ei darllen.”

Er ei bod yn amlwg bod y sector yn cytuno ar bwysigrwydd cyflwyno eu hunain yn Gymraeg a Saesneg, mae’r un mor glir bod heriau o amgylch llif gwaith a llais, y mae Rob yn ei gymharu â mathau eraill o fynediad digidol. “Yr hyn sy’n wych i’w weld yw faint o sefydliadau sydd wedi sefydlu polisïau mynediad ar gyfer y deunydd maen nhw’n ei roi allan, a bod cyhoeddi dwyieithog yn cael ei gynnwys fwyfwy. Gobeithio y gwelwn ni’r llifoedd gwaith hynny’n dod yn fwy ffurfiol dros amser, a’r lleisiau hynny’n dechrau dod i’r amlwg.”

 

Gair i gall:

 

  • Er y gall eich staff uniaethu fel Cymry Cymraeg, nid yw hynny’n golygu eu bod yn gyfforddus yn cymryd cyfrifoldeb am gyfieithu allbwn eich sefydliad, yn enwedig heb rywun arall i brawf-ddarllen y gwaith.
  • Gall canllaw Tôn Llais, a ysgrifennir ac a brawf-ddarllenir yn y Gymraeg a’r Saesneg (yn hytrach nag un yn syml fod yn gyfieithiad o’r llall) helpu eich cyfieithwyr i sicrhau nad yw personoliaeth yn cael ei golli wrth weithio ar eich copi.
  • Defnyddiwch wasanaethau cyfieithu sydd wedi eu hargymell, fel gwasanaethau Cymraeg www.atebcymru.wales

 

Arts Council of Wales logo/Cyngor Celfyddydau Cymru logo
Arts Council of Wales | Cyngor Celfyddydau Cymru

How useful was this resource?