Ffrydio byw y tu hwnt i’r cyfnod clo

Sgwrs gyda Sam Vicary a Kev Tame

 

Pan wnaeth Small World Theatre Company yn Aberteifi, Ceredigion, gais i’r rhaglen fentora, roedden nhw newydd gwblhau cyfres o dreialon gyda ffrydio byw, a ysgogwyd gan gyfyngiadau’r cyfnod clo. Fel i lawer, roedd y gweithgaredd wedi ei yrru gan reidrwydd yn hytrach na dewis, ac roedd Sam Vicary, yr arweinydd marchnata digidol yn fewnol a fu’n rhan o’r treialon, yn ymwybodol y byddai’n ‘naid’ iddyn nhw ddarparu eu sioeau arferol wyneb yn wyneb yn ddigidol.

 

Tra bod ffrydio byw yn cynnig y potensial i gyrraedd cynulleidfa fyd-eang, roedd gan Sam bryderon am golli cysylltiad gyda’r gymuned leol, gan bod rhaid i’r cynulleidfaoedd ffyddlon yma ‘barhau yn ganolbwynt i ni’. Roedd Sam wedi gweithio gydag AM, grŵp sy’n helpu pobl i gynhyrchu ffrydiau byw o’u gwaith, ac sy’n cynnig gwefan lle mae modd rhannu ffrydiau er mwyn i gynulleidfaoedd eu gwylio.

 

Sgiliau digidol newydd

 

Gan weithio gyda Kev Tame o AM, fe wnaethant ailddatblygu un o’u sioeau yn llwyr i fod yn sioe ffrydio byw,  gyda chyflwynydd, agweddau rhyngweithiol, ac – yn hollbwysig – cefnogaeth i gwsmeriaid. Fel gyda phob arbrawf, dysgodd Small World Theatre Company drwy roi cynnig ar ddulliau newydd a herio eu harferion wyneb-yn-wyneb er mwyn dod o hyd i atebion artistig a thechnegol yn y modd newydd hwn o gyflwyno gwaith.

 

Wrth edrych yn ôl, mae Kev ei hun yn cofio sut wnaeth llawer o sefydliadau orfod dysgu sgiliau digidol newydd yn anhygoel o gyflym. “Roedd lot o’r cynyrchiadau [digidol] ar y pryd yn llwyr mewn ymateb i gyfyngiadau Covid, gyda llawer yn brofiadau eithaf brawychus i’r trefnwyr gan nad oedden nhw o reidrwydd yn gwybod sut oedd y cyfan yn mynd i weithio.”

 

Gweithiodd Kev gyda The Space i gefnogi artistiaid eraill drwy’r rhaglen fentora, gan gynnwys, fel cyd-ddigwyddiad, cwmni pypedau arall – Vagabondi Puppets – ym Mhowys. Roedd Jo Munton, a dderbyniodd y mentora, yn chwilio am ffyrdd o ffrydio sioeau yn rhyngwladol, er mwyn gallu cydweithio gydag artistiaid mewn gwledydd eraill. Roedd Jo yn cydnabod yr heriau gyda pherfformio a chyflwyno gwaith, ond gwelodd y materion hyn fel cyfle i fod yn greadigol. Daeth cyfle i gysylltu ag artistiaid a chynulleidfaoedd eraill, ac wrth ymateb i’r cyfyngiadau ar deithio bu’n rhaid mynd i’r afael â heriau hygyrchedd a mynediad yn gyffredinol.

 

The Giant Bran giant puppet lying down near the Hartlepool waterfront
The Giant Bran puppet at the Hartlepool Waterfront Festival / Pyped Cawr Bran

 

Gweithiodd Kev a Jo gyda’i gilydd i asesu’r adnoddau technegol presennol ac adnabod y newidiadau y byddai angen iddi eu rhoi ar waith er mwyn cynhyrchu a ffrydio’r gwaith. Sefydlon nhw gysylltiad rhyngrwyd cadarn a dibynadwy drwy leoli llwybryddion mewn mannau strategol, ac yna trafod anghenion cynhyrchu ac offer a fyddai’n gwella’r canlyniadau terfynol. Eglurodd Kev: “Roedd gan Jo rywfaint o offer goleuo ond roedd eisiau adeiladu ar hynny er mwyn cyrraedd safon a fyddai’n caniatáu iddi wella ansawdd y gwaith ar-lein”. Roedd Jo yn gweithio ar ei phen ei hun ac yn ceisio datrys y cyfan sydd, mae Kev yn cyfaddef, yn her i unrhyw un.

 

Cynllunio strategol

 

Yn y cyfamser, defnyddiodd Sam ei hamser ar y rhaglen fentora i feddwl am y camau nesaf, ac i bendefynu ar fodd strategol o barhau i ffrydio’n fyw. Roedd tîm creadigol Small World Theatre wedi cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau hybrid (‘cabarets’) yn llwyddiannus drwy gymysgu perfformiadau ar-lein gyda perfformiadau wyneb-yn-wyneb, gyda’r nod o gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach. Roedd pryderon fodd bynnag y byddai gweithgarwch o’r fath yn mynd yn anghynaladwy o ran adnoddau, ac y byddai eu gallu i gynnal ymrwymiad y gynulleidfa yn lleihau ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu codi.

 

Y realiti i gymaint o sefydliadau yn ystod yr amser yma oedd, wedi i’r cyfnod clo ddod i ben, doedd dim modd parhau gyda phob cynllun. Cafodd cynhyrchiad Small World Theatre, a oedd i fynd ar daith o amgylch Cymru, ei ganslo ychydig cyn y dyddiad dechrau. “Roedd yn ddarn theatr amgylcheddol yn cynnwys prop hardd – carafán ‘showman’ wedi ei adeiladu  gan aelodau tîm creadigol Small World” meddai Sam. “Roedd yn drueni ofnadwy i wastraffu’r gwaith, felly cymeradwyodd Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) i ni droi’r garafán yn fwth storïol ar gyfer casgliad ar-lein o chwedlau Cymraeg  – ‘Amser Stori’. Fe wnaethon ni ail-sgriptio’n gyflym gan ddefnyddio deunydd o ddarn hŷn a oedd yn cynnwys pypedau ac animeiddio, adroddwr a phypedwaith cysgodol. Fe wnaethon ni hyd yn oed gyflwyno pyped digidol!” Roedd Sam yn hynod ddiolchgar am fewnbwn AM, sydd unwaith eto yn eu cefnogi trwy gynnal y casgliad hwn o straeon ar eu gwefan, ac wedi helpu hyrwyddo’r lansiad hefyd. “Mae’r tîm i gyd yn wych a dweud y gwir,” meddai Sam, “ac mae Kev wedi bod yn anhygoel. Roedd e wrth ein hochr ni yn ystod yr eiliadau ffrydio byw brawychus ac mae’n parhau i’n cefnogi ni.”

 

Offer creadigol newydd

 

Mae Kev hefyd yn awyddus i weld sut bydd Small World Theatre a chwmnïau eraill yn parhau i ddatblygu. Mae’r blynyddoedd diweddar o arbrofi digidol ac addasu i’r oes wedi gadael gwaddol yn y sector celfyddydau sy’n golygu, er bod cynulleidfaoedd yn dychwelyd i berfformiadau wyneb yn wyneb, mae elfennau digidol fel ffrwd byw bellach yn rhan naturiol o ddarpariaeth sector y celfyddydau, ac nid yn ymateb angenrheidiol i gyfyngiadau. Mae Kev yn disgrifio sut mae ffrydio wedi bod yn gadarnhaol o ran cynwysoliaeth, boed hynny i’r artist neu i aelodau o’r gynulleidfa y mae teithio neu torfeydd yn peru anhawsterau iddynt. “Mae ffrydio byw yn rhywbeth ry’n ni’n ei gymryd yn ganiataol nawr. Mae’r cyfleoedd digidol gwahanol yn gliriach erbyn hyn ac mae modd cymryd mantais ohonynt wrth greu cynyrchiadau newydd.”

 

Mae Rob Lindsay, sy’n rheoli Rhaglen Fentora The Space, yn cytuno. “Dyw hi ddim yn anarferol i gynhyrchiad gymryd dros flwyddyn i’w datblygu cyn eu bod yn cyrraedd y llwyfan, ac mae gwir angen ystyried yr opsiynau digidol reit ar y dechrau. Unwaith y bydd sioe yn cael ei gwireddu yng ngolwg y tîm creadigol, gall fod yn anodd dechrau cyflwyno elfennau digidol newydd – ond os yw timau’n cofio bod ganddynt y cyfloedd yma o’r cychwyn cyntaf, yna mae modd creu profiadau newydd i gynulleidfaoedd a defnyddio dulliau newydd o adrodd straeon.”

 

Cliciwch yma i weld gwaith Small World Theatre.

Cliciwch yma i weld Vagabondi Puppets ar Facebook

 

Prif gynghorion ar gyfer ffrydio byw:

 

  • Peidiwch ag anghofio pwysigrwydd cymorth i gwsmeriaid. Fel y mae ymwelwyr â’r theatr weithiau angen help i ddod o hyd i’w seddi, efallai y bydd angen i chi ddanfon nodyn at eich cynulleidfa ddigidol ar ddiwrnod y sioe i gadarnhau’r ddolen berthnasol.
  • Os ydych chi’n ffrydio’n fyw o sioe sydd hefyd yn wyneb yn wyneb, gall cyflwynydd ar-lein helpu i ymgysylltu â’ch cynulleidfa ar-lein, a gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn rhan o’r holl beth.
  • Peidiwch â dibynnu ar wifi am unrhyw ran o’ch darllediad – defnyddiwch gyswllt gwifren lle bynnag y gallwch.

 

Arts Council of Wales logo | Cyngor Celfyddydau Cymru logo
Arts Council of Wales logo | Cyngor Celfyddydau Cymru logo

How useful was this resource?