Creu Strategaeth Ddigidol gydag Adnoddau Cyfyngedig

Astudiaeth Achos Mentora

Mae nifer o bobl yn gofyn am help gan The Space wrth ysgrifennu eu strategaeth ddigidol gyntaf – tasg sy’n ymddangos yn llawer mwy brawychus i’r bobl greadigol hynny sy’n gweithio mewn timau bach neu hyd yn oed fel unigolion.

 

Roedd hyn yn sicr yn wir am Gina Biggs o SheWolf, cwmni perfformio dan arweiniad pobl anabl sydd wedi’i leoli yng Nghymru. Fel yr unig aelod o’r Cwmni, ac wrth iddi gael diagnosis o Fibromyalgia ac arthritis osteoporosis cynnar gyda heriau iechyd meddwl ychwanegol. Cefnogir Gina gan y cynhyrchydd a’r Gweithiwr Cymorth, Lydia Bassett, a ymunodd â Gina am y tro cyntaf drwy’r gronfa Datblygu Eich Ymarfer Creadigol.

 

Roedd Gina wedi derbyn cefnogaeth bellach i’w hymarfer gan gwmni Unlimited, Cyngor Celfyddydau Cymru, National Theatre Wales, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac eraill. Ar ôl creu ffilm beilot, a ffilmiwyd ar ynys Flat Holm ym Môr Hafren, am ei gwaith ymgorfforiad mewn tirlun, roedd Gina yn awyddus i ddysgu sut orau i ddefnyddio’r ffilm fel elfen barhaus o’i phresenoldeb digidol ehangach. Roedd hi eisiau gwneud gwaddol ei gwaith yn fwy gweladwy, a defnyddio’r help hwn gyda cheisiadau ariannu yn y dyfodol.

 

Mae blaenoriaethu yn allweddol

Yn ogystal, roedd hi’n awyddus i ddatblygu ei chynulleidfa ymhellach gyda pha bynnag ddeunyddiau yr oedd hi’n rhoi ei hamser a’i hegni i’w creu. Fe’i parwyd â’r mentor Sarah Fortescue a gan mai Gina a Lydia yw’r tîm cyfan, cytunwyd y dylent ganolbwyntio ar lai o sianeli i ddechrau er mwyn ceisio cynnal lefel o amlygrwydd. Maent yn hyrwyddo gwaith SheWolf trwy Facebook ac mae gan Gina gyfrof Instagram wedi’i gofrestru gyda dolen y cwmni. O ystyried yr angen i weithio’n effeithlon yn ogystal ag yn effeithiol, anogodd Sarah Gina hefyd i ‘wneud y gorau o’i sianeli partner taith, a gwyro i’r partneriaethau hynny.’

 

Roedd Canolfan Mileniwm Cymru wedi trafod comisiynu ehangu un o ddarnau Gina ac roedd eu Cynhyrchydd Digidol i fod i’w mentora un diwrnod yr wythnos am flwyddyn. I Gina, er bod hwn yn gynnig amhrisiadwy, roedd hi’n ansicr o sut i wneud y defnydd gorau o’r cyfnod hwn.

Yn ôl Rob Lindsay, Pennaeth Rhaglenni The Space, mae hon yn her anhygoel o gyffredin. “Pan fydd eich adnoddau’n gyfyngedig, ac rydych chi’n cael cynnig help, mae’n cymryd hyder i flaenoriaethu, ac i wybod eich bod chi’n defnyddio’r gefnogaeth honno yn y maes cywir, neu yn y ffordd gywir. Mae llawer o bobl sy’n cael eu mentora yn poeni, os nad ydyn nhw’n gwneud defnydd o gynigion o gymorth yn yr union le cywir, yna maen nhw’n colli allan yn y tymor hir. Ac mae’r pryder hwnnw yn gallu atal pobl rhag symud ymlaen o gwbl.”

 

Mae Sam Vicary yng Nghwmni Theatr Small World wedi teimlo pwysau tebyg ar ei hamser ac ar ei rhestr o flaenoriaethau. Ei phrofiad cyntaf o dderbyn mentora y tu allan i gwmni Small World oedd drwy raglen The Space ac fe wnaeth ei helpu i deimlo’n llai unig yn ei nod i ehangu eu cyrhaeddiad digidol. Mae’n dweud o fewn y cwmni: ‘Dwi’n gweithio gyda pherfformwyr sydd eisiau gwneud pethau ar y llwyfan felly mae’n ddealladwy nad yw cefn llwyfan bob amser mor gyffrous â hynny iddyn nhw.’

 

Datblygu strategaeth

Drwy ei phrofiad ar y rhaglen gyda’r mentor Amy Rushby, llwyddodd Sam i ddatblygu ei hyder ac ysgrifennu strategaeth ddigidol ddrafft i’r cwmni: ‘Do’n i ddim yn gwybod beth o’n i’n mynd i’w wneud na sut i wneud ac fe aethon ni drwy’r broses yna. Roedd cymryd nodiadau ym mhob sesiwn yn ddefnyddiol iawn a daethant yn ffrâm i’r ddogfen ei hun.’

 

Drwy ffurfioli ei hamcanion digidol i’r cwmni drwy ysgrifennu strategaeth, roedd Sam yn gallu cyfathrebu’n fwy effeithiol gyda’r tîm estynedig a’r bwrdd ynglŷn â phwysigrwydd cynllunio tra hefyd yn adlewyrchu ar yr hyn maen nhw wedi ei gyflawni yn barod: ‘Doeddwn i ddim wedi sylweddoli pa mor bwysig yw hyn. Mae ‘na ganlyniad sydd i’w weld bellach, ond cyn hynny, arbrofi oedden ni. Dim ond nawr mae’n rhan iawn o’r hyn rydyn ni’n ei wneud.’

 

Mae Rob yn esbonio bod y gwelededd hwn yn hynod o bwysig, fel y mae cofio pwy rydych chi’n ysgrifennu’r strategaeth ar ei gyfer. “Os ydych chi’n ysgrifennu strategaeth ar gyfer tîm bach,” meddai, “yn syml, dylai egluro iddyn nhw’r penderfyniadau rydych chi wedi’u gwneud ynghylch digidol, a pham. Gall fod yn rhywbeth mor syml â rhestr o weithgareddau, gyda’ch rhesymu dros bob un fel y gallwch flaenoriaethu tasgau pan fo amser yn dynn. Mae angen iddo fod yn ddarllenadwy, ac yn hygyrch, ac yn glir, ac mae’n gallu esblygu dros amser, felly peidiwch â phoeni am greu rhywbeth perffaith.”

 

I Gina yn SheWolf, mae digon o syniadau creadigol, dim ond brwydr gydag amser ac oriau gwaith er mwyn symud yr allbwn digidol ymlaen. Ar brosiect diweddar, mae wedi bod yn recordio ffotograffau, cofnodion dyddiadur, recordio sain ac ysgrifennu creadigol felly mae’n bosib y bydd llawer i weithio gydag ef o ran allbwn cyfryngau cymdeithasol a gwyro i ymgysylltu digidol â’i stori. Mae hi’n cydnabod bod yr ymdeimlad o gael ‘caniatâd’ i ganolbwyntio ar Instagram yn unig a dweud na wrth lwyfannau eraill ar hyn o bryd, wedi bod yn ddefnyddiol.

Gina Biggs sitting on a rocky outcrop against a blue cloudy sky.
Gina Biggs

 

Mae blaenoriaethu ei gwaith creadigol a’i hiechyd meddwl o’r pwys mwyaf ac mae hi wedi gweld ymateb cadarnhaol gan bobl pan mae hi’n onest am weithio o fewn ffiniau realistig a gonest: ‘Pan ydw i, dyna mae pobl yn ymateb iddo. Maen nhw’n dweud pethau fel: Dwi’n teimlo hyn, diolch am ddisgrifio fy mhrofiad i. Yn bendant mae gen i ymdeimlad cryfach o lais. Mae’r ochr iechyd meddwl yn llawer anoddach weithiau ond dwi’n teimlo mod i eisiau bod yn gwneud mwy o waith sy’n cysylltu pobl â natur a chreadigrwydd, ac sy’n cefnogi eu hiechyd meddwl.’

 

Mae Sam yn Small World wedi gweld manteision ysgrifennu strategaeth ddigidol er mwyn ysgogi’r gwahanol randdeiliaid i rannu’r weledigaeth: ‘Roeddwn i eisiau cyflwyno sut mae digidol wedi helpu i ddatblygu ein perfformiad byw. Mae wedi gwella’r broses o wneud gwaith newydd gyda chydweithwyr sy’n artistiaid. Roedd y maes newydd hwn o ddigidol yn cynnwys naid o ffydd gan y tîm creadigol a thrwy hyfforddiant mae bellach yn rhan annatod o’r hyn rydym yn ei wneud.’

 

Cyfathrebu â’ch cynulleidfa

Ar ôl mentora, mae’r newidiadau y mae hi wedi’u gweithredu wedi profi’n bositif i Sam ac i gwmni ehangach Small World a’u cynulleidfaoedd. Mae gwelliannau digidol pellach bellach ar y gweill: ‘Rwyf wedi cymryd hen wefan WordPress i ffwrdd a’i roi yn Squarespace gyda system dalu ar-lein newydd sy’n arbed amser ac arian i ni. Mae’r staff a’r gynulleidfa yn mwynhau ei defnyddio, yn ogystal â mwynhau ein negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’n fwy o hwyl ac yn wirioneddol adlewyrchu’r hyn rydyn ni’n ei wneud, ac eto dyw’r cwmni ddim wedi newid – sy’n broses ddiddorol!’

 

Drwy ddod yn fwy hyderus gyda phostio ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn dilyn y diweddariadau i’w gwefan, mae Sam wedi caniatáu i gynulleidfaoedd Small World gael mynediad i’r cwmni a gwerthfawrogi’r cwmni mewn ffordd newydd. Mae hi’n nodi bod eu mentor, Amy, wedi egluro sut y dylai strategaeth ddigidol fod yn gweithio iddyn nhw: ‘Rydych chi’n ei wneud e i gyd – dim ond bod angen i chi ddweud beth rydych chi’n ei wneud.’

 

Cliciwch yma i ddarllen mwy am waith Small World Theatre

Cliciwch yma i ddarllen mwy am waith SheWolf

 

Gair i gall:

  • Meddyliwch pwy fydd angen darllen y strategaeth hon – ydy hi’n glir, ydy hi’n gryno?
  • Dylai eich strategaeth gynnwys y cynulleidfaoedd rydych chi eisiau eu cyrraedd, pam rydych chi eisiau eu cyrraedd, a’r hyn rydych chi eisiau iddyn nhw ei wneud. Fel hyn, byddwch yn glir ar ba fathau o weithgaredd ddylai fod yn flaenoriaeth i chi, a pha fathau o weithgaredd y gallwch chi ddweud ‘na’ yn hyderus wrthynt.
  • Dylai eich strategaeth ddathlu’r hyn rydych chi eisoes yn ei wneud yn dda, a pham rydych chi’n teimlo eu bod nhw’n bwysig.

 

Arts Council of Wales logo/Cyngor Celfyddydau Cymru logo
Arts Council of Wales | Cyngor Celfyddydau Cymru

How useful was this resource?